Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Atgynhyrchu Deunydd y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru

Number: 10
Dyddiad: Mai 15 2000
(diwygiwyd 15 Mawrth 2008)

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut y gellir atgynhyrchu amrywiol ddeunyddiau Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru. Ceir crynodeb mewn Atodiad o'r defnydd a ganiateir a'r rhwymedigaethau cyfatebol.

Cefndir

1. Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC), corfforaeth a ailgyfansoddwyd o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 1997 (Pennod 44) sy'n gyfrifol am bolisi'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a'i weithrediad.

2. Ei Mawrhydi y Frenhines yw perchennog cyntaf hawlfraint y Goron, fel y diffinnir yn adran 164 Deddf Hawlfreintiau, Cynlluniau a Phatentau 1988. Penododd y Frenhines Reolydd HMSO i swyddfa Argraffydd Deddfau Seneddol y Frenhines i ddal a gweithredu hawlfraint y Goron a hawlfreintiau eraill sy'n eiddo i Ei Mawrhydi mor llawn â phetai hawlfreintiau o'r fath yn eiddo i'r Rheolydd ei hun.

3. Cyhoeddir deunydd swyddogol sy'n ymwneud â'r Cwricwlwm Cenedlaethol gan neu ar ran y Cynulliad ac ACCAC. Y Goron neu ACCAC, sydd â hawlfraint ynddo'i hun, sydd â'r hawlfraint ar gyfer y rhan fwyaf o'r deunydd hwn. Mae'r Nodyn Canllaw hwn yn disgrifio'r polisi sy'n ymwneud ag atgynhyrchu deunyddiau amrywiol y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Y termau a ddefnyddir yn y Canllaw hwn

4. Yn y Nodyn Canllaw hwn mae'r termau canlynol yn golygu yr hyn a nodir isod.

Y CWRICWLWM CENEDLAETHOL YNG NGHYMRU

Dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol

Y dogfennau fframwaith swyddogol ar y Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd gan neu ar ran y Cynulliad ac ACCAC ym mis Mawrth 2000. Maent yn cynnwys y prif elfennau canlynol, a gaiff eu diffinio ar wahân:

Gorchmynion y Cwricwlwm Cenedlaethol

Yr Offerynnau Statudol sy'n rhoi'r effaith statudol i'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Rhaglenni Astudio

Mae'r rhain yn nodi beth y dylid ei ddysgu i bob disgybl ar gyfer pob pwnc.

Targedau Cyrhaeddiad

Mae'r rhain yn nodi safonau perfformiad y disgyblion a ddisgwylir ar gyfer pob un o'r prif bynciau a astudir mewn ysgolion.

Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Fframwaith i hybu datblygiad personol a chymdeithasol y disgyblion.

Fframwaith Addysg ar Sail Gwaith

Fframwaith ar gyfer addysg ar sail gwaith ar gyfer disgyblion 14 i 19 oed.

Profion

Profion a Thasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gynhyrchir gan ACCAC a osodir ar gyfer disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 (oedran 7, 11 a 14) fel y disgrifir yn Nogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Trefniadau ar gyfer atgynhyrchu Deunydd a ddiogelir gan y Goron

5. Mae'r dogfennau canlynol yn destun diogelwch hawlfraint y Goron gan iddynt gael eu gwneud gan swyddogion neu weision y Goron wrth gyflawni eu dyletswyddau, yn unol ag adran 163 Deddf Hawlfreintiau, Cynlluniau a Phatentau 1988:

Gorchmynion y Cwricwlwm Cenedlaethol

6. Yn ogystal â'r eitemau hynny a gwmpesir o dan y paragraff blaenorol, mae ACCAC wedi aseinio ei hawlfraint yn y categorïau deunydd canlynol, a gaiff eu cynnwys o fewn Dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, i'r Goron:

Y Rhaglenni Astudio; a

Y Targedau Cyrhaeddiad

Y Defnydd a Ganiateir

7. Ar yr amod y cedwir at yr amodau a nodir ym mharagraffau 9 a 10, mae rhyddid i atgynhyrchu'r deunydd a restrir ym mharagraffau 5 a 6. Bydd y deunydd hwn o ddiddordeb arbennig i ysgolion a sefydliadau addysgol eraill, ond mae'r un rhyddid cyffredinol i atgynhyrchu'r deunydd yr un mor berthnasol i ddefnyddwyr eraill y deunydd hwn. Fel enghraifft, gallai defnyddwyr ledled y byd ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol mewn perthynas â'r deunydd hwn:

a) atgynhyrchu a chyhoeddi'r deunydd mewn unrhyw gyfrwng;

b) gwneud nifer o gopïau i'w dosbarthu a'u gwerthu;

c) gwneud nifer o lungopïau i'w dosbarthu i eraill am ddim (e.e. hwyrach y bydd ysgolion am ddarparu llungopïau i fyfyrwyr a rhieni);

ch) ailgynhyrchu'r deunydd at ddibenion gohebu newyddion mewn unrhyw gyfrwng;

d) gwneud copïau sengl neu nifer o gopïau drwy lungopïo neu drwy unrhyw ddull arall, at ddiben ymchwil ac astudiaeth breifat;

dd) cyhoeddi'r deunydd ar y Rhyngrwyd;

e) atgynhyrchu'r deunydd ar safleoedd y Fewnrwyd;

f) llyfrgelloedd yn gwneud copïau sengl neu nifer o gopïau (drwy lungopïo neu drwy unrhyw ddull arall) i'w cyflenwi i ddarllenwyr, yn amodol ar yr angen hollbwysig i lyfrgelloedd penodedig adfer eu costau fel y nodwyd yn O.S. 1989 Rhif 1212;

ff) llyfrgelloedd yn gwneud copïau at ddibenion ychwanegu at eu stoc neu ei adnewyddu;

g) gwneud copïau i'w dosbarthu drwy sefydliad p'un a yw yn y sector preifat neu gyhoeddus;

ng) atgynhyrchu o fewn cyd-destun seminarau a phecynnau hyfforddi;

h) atgynhyrchu o fewn traethodau ymchwil a thraethodau estynedig myfyrwyr;

i) cyfieithu i ieithoedd eraill.

Nid yw'r rhestr uchod yn gynhwysfawr o bell ffordd, ond mae'n ymgais i ddangos y mwyafrif o ddarpar ddefnyddwyr deunydd a ddiogelir gan y Goron.

Amodau ar Ddefnyddio Deunydd a ddiogelir gan y Goron

8. Mae atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan y Goron a restrir ym mharagraffau 5 a 6 yn amodol ar gydymffurfio â'r amodau canlynol:

a) dylai'r holl ddeunydd a atgynhyrchir gael ei atgynhyrchu o'r fersiynau cyhoeddedig swyddogol o Ddogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu'r fersiynau a gyhoeddwyd gan neu ar ran y Cynulliad neu ACCAC. Nid yw'r hawl i atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan y Goron yn cynnwys y deunydd os caiff ei gynnwys mewn gweithiau a gyhoeddir gan neu ar ran ACCAC sy'n cefnogi gweithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol (ac eithrio yng nghyd-destun Dogfennau'r Cwricwlwm Cenedlaethol). Yn yr un modd, nid oes gan ddefnyddwyr hawl awtomatig i atgynhyrchu'r deunydd o ffynonellau eraill, megis cynnyrch masnachol a gyhoeddir gan gyhoeddwyr addysgol, er enghraifft;

b) mae'n rhaid atgynhyrchu'r deunydd yn gywir. Yn achos cyfieithiadau i ieithoedd eraill, mae'n rhaid defnyddio cyfieithydd cymwys yn enwedig yn yr achosion hynny lle y bwriedir rhyddhau'r cyfieithiad i'r cyhoedd;

c) dylid cymryd gofal bod y deunydd a atgynhyrchir yn ddeunydd o'r fersiwn cyfredol a gyhoeddwyd neu'r fersiwn diweddaraf a gyhoeddwyd, ac na chaiff hen ddeunydd ei gyflwyno fel petai'n ddeunydd cyfredol. Lle caiff hen ddeunydd ei atgynhyrchu at ddibenion tynnu cymhariaeth â deunydd cyfredol neu ddadansoddiad tebyg, dylid egluro bod y deunydd dan sylw wedi'i ddisodli, gyda thrawsgyfeiriadau priodol. Lle caiff y deunydd ei ddangos ar safleoedd y Rhyngrwyd neu'r Mewnrwyd, dylid gwneud pob ymdrech resymol i arolygu'r deunydd a ddangosir yn rheolaidd ac i ddileu unrhyw ddeunydd nad yw bellach yn gyfredol;

ch) ni ddylid defnyddio'r deunydd mewn modd niweidiol neu gamarweiniol; ac ni ddylid ei ddefnyddio at ddibenion hysbysebu neu hybu cynnyrch neu wasanaeth penodol neu ar gyfer hybu diddordebau neu farnau arbennig;

d) ni ddylid cyflwyno'r fersiynau o'r deunydd a atgynhyrchwyd mewn modd fyddai'n awgrymu bod ganddo'r un statws awdurdodol â'r fersiynau cyhoeddedig swyddogol o'r gweithiau a gymeradwywyd ac a gyhoeddwyd gan neu ar ran y Cynulliad neu ACCAC;

dd) dylid tynnu logo'r Arfwisg Frenhinol ac unrhyw logos eraill sy'n perthyn i'r Cynulliad neu ACCAC neu ddarluniau tebyg a allai gael eu dangos ar fersiynau cyhoeddedig swyddogol o'r gweithiau a gyhoeddwyd gan neu ar ran y Cynulliad ac ACCAC, o unrhyw gopïau o'r deunydd a gyhoeddir neu sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r achosion hynny lle caiff y deunydd ei atgynhyrchu ar safleoedd y Rhyngrwyd a'r Fewnrwyd;

e) caiff y deunydd ei gydnabod yn briodol fel y nodir ym mharagraff 9 isod. Ar gyfer cyfieithiadau i ieithoedd eraill, dylid rhoi cydnabyddiaeth yr hawlfraint yn Gymraeg neu Saesneg (fel y bo'n briodol) ac yn yr iaith y caiff y deunydd ei gyfieithu.

9. Pan fo'r deunydd yn ddeunydd i'w gyhoeddi, ei gylchredeg neu ei anfon at eraill - gan gynnwys deunydd i'w ddefnyddio ar y Rhyngrwyd neu'r Fewnrwyd - rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a defnyddio'r datganiad a ganlyn:

Ar gyfer yr eitemau a drafodir o dan baragraff 5 - Atgynhyrchir deunydd Hawlfraint y Goron gyda chaniatâd Rheolwr Llyfrfa ei Mawrhydi ac Argraffydd y Frenhines yn yr Alban a/neu, lle bo hynny'n briodol - Hawlfraint y Goron. Atgynhyrchwyd o dan dermau Nodyn Canllaw 10 HMSO

Lle caiff y deunydd ei lungopïo, byddai cydnabyddiaeth mewn llawysgrifen yn dderbyniol.

10. Hwyrach y bydd y crynodeb o'r defnydd a ganiateir a'r gofynion cyfatebol ar gyfer yr hawlfraint a ddiogelir gan y Goron fel y nodir yn Atodiad A y Nodyn Canllaw hwn yn ddefnyddiol.

Trefniadau ar gyfer deunydd nad yw'n Ddeunydd y Goron

11. ACCAC sydd â hawlfraint y deunydd esboniadol cysylltiedig sy'n ymwneud â Rhaglenni Astudio yn y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae ACCAC yn cydnabod pwysigrwydd lledaenu'r deunydd hwn ac wedi cytuno y gellir ei atgynhyrchu o dan yr un amodau â'r deunydd a ddiogelir gan y Goron (gweler paragraffau 7 ac 8, ac Atodiad A). Wrth atgynhyrchu'r deunydd hwn, fodd bynnag, mae angen y gydnabyddiaeth ganlynol:

© Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru. Atgynhyrchwyd o dan dermau Nodyn Canllaw 10 HMSO.

12. ACCAC sydd hefyd â'r hawlfraint yn y categorïau canlynol o ddeunyddiau ac ni ddylid ei atgynhyrchu heb ganiatâd ACCAC, oni bai fod defnydd o'r fath yn disgyn o fewn cwmpas paragraff 14:

Dylid anfon pob cais i ACCAC i'r cyfeiriad a roddir ym mharagraff 17.

13. Mae'r termau ar gyfer atgynhyrchu deunydd hawlfraint ACCAC ar gael ar gais gan ACCAC o'r cyfeiriad a roddir ym mharagraff 17.

14. Nid oes angen caniatâd penodol gan ACCAC ar gyfer y deunydd a restrir ym mharagraff 12 yn yr achosion hynny lle mae'r defnyddiwr yn atgynhyrchu darnau at ddibenion ymchwil, astudiaeth breifat, beirniadaeth neu arolwg neu unrhyw ddefnydd arall a ganiateir a ddisgrifir yn y Ddeddf Hawlfreintiau, Cynlluniau a Phatentau 1988. Mae hyn yn amodol ar gydnabod ffynhonnell y deunydd yn briodol, gan gynnwys datganiad sy'n dangos mai Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru sydd â'r hawlfraint am y deunydd.

Gwybodaeth Arall

15. Os caiff unrhyw ddeunydd a gynhwysir yn yr eitemau a restrir ym mharagraffau 5, 6 ac 11 ei farcio fel ei fod yn perthyn i unrhyw berchennog hawlfraint oni bai am y Goron (gan gynnwys Argraffydd a Rheolydd HMSO y Frenhines) neu ACCAC, yna nid yw'r defnydd a ganiateir ym mharagraff 8 yn berthnasol. Mewn amgylchiadau o'r fath, byddai angen i ddefnyddwyr gael caniatâd gan ddeiliad priodol yr hawlfraint cyn atgynhyrchu'r deunydd.

16. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Nodyn Canllaw hwn, yn arbennig mewn perthynas â'r deunydd a ddiogelir gan y Goron, at Yr Is-adran Drwyddedu OPSI i'r cyfeiriad canlynol:

Office of Public Sector Information
Information Policy Team
Kew
Richmond
Surrey
TW9 4DU

e-bost: licensing@opsi.gov.uk

17. Dylid anfon ceisiadau i atgynhyrchu deunydd ACCAC a ddiogelir gan hawlfraint neu ymholiadau mewn perthynas â thermau trwyddedu ar gyfer hawlfraint ACCAC i'r cyfeiriad canlynol:

Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru
Adeiladau'r Castell
Stryd Womanby
Caerdydd
CF10 9SX

Ffôn: 029 2037 5400
Ffacs: 029 2034 3612
e-bost: info@accac.org.uk

CAROL TULLO
Rheolydd HMSO
Argraffydd y Frenhines
ATODIA